Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn
Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2014 a dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014
Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014 a dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
Toriad y Nadolig: Dydd Llun 15 Rhagfyr 2014-Dydd Sul 11 Ionawr 2015
Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015 a dydd Mercher 14 Ionawr 2015
***********************************************************************
Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno'r Bil Cymwysterau Cymru (60 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Gwyddoniaeth yng Nghymru - Ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf (30 munud)
· Dadl: Effaith y Polisi Caffael yng Nghymru (60 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol 2014 ar y Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau (60 munud)
Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (15 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Datganiad gan Kirsty Williams: Cyflwyno Bil arfaethedig Aelod - y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) (30 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5625
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu y dylid datganoli plismona (heblaw am Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol y DU a diogelwch gwladol).
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ddulliau Llywodraeth Cymru o hyrwyddo masnach a mewnfuddsoddi (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - William Graham (Dwyrain De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd (30 munud)
· Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (30 munud)
· Rheoliadau Cadw a Chyflwyno Pysgod (Cymru) 2014 (15 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Caethwasiaeth Fodern – darpariaethau sy'n ymwneud ag eiriolwyr masnachu plant, canllawiau ar adnabod a chefnogi dioddefwyr a rhagdybio oedran (15 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Troseddau Difrifol (15 munud)
· Dadl: Cyllideb Derfynol 2015-16 (60 munud)
· Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma ar weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru (60 munud)
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
NNDM5630
Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod menywod wedi gwneud cyfraniad enfawr i fywyd gwaith Cymru ac yn parhau i fod yn rhan hanfodol o economi Cymru;
b) ei bod bron i 100 mlynedd ers i fenywod gael y bleidlais a bron i 40 mlynedd ers y Ddeddf Cyflog Cyfartal;
c) bod gan Lywodraeth Cymru ran bwysig i'w chwarae o ran sicrhau nad oes gwahaniaethu sefydliadol yn digwydd yn y gweithle.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â dyfarnu contractau caffael neu arian grant Llywodraeth Cymru i gwmnïau nad oes ganddynt unrhyw gyfarwyddwyr benywaidd ar eu byrddau.
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 13 Ionawr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – diwygio mewn perthynas â Deddf Landlord a Thenant 1954 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 2) (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth – taliadau ymadael y sector cyhoeddus (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Memorandwm Rhif 3) (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Dadreoleiddio - diwygio mewn perthynas â Deddf Cychod Pysgota Prydeinig 1983, Deddf Pysgodfeydd 1868 a Deddf Pysgodfeydd 1891 (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Memorandwm Rhif 5) (15 munud)
· Dadl: Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol 2015-16 (60 munud)
· Dadl: Adroddiad Blynyddol 2013-14 Law yn Llaw at Iechyd Meddwl (60 munud)
Dydd Mercher 14 Ionawr 2015
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Gyflogau Uwch-reolwyr (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer (30 munud)